top of page
Asset 4.png
events.jpg

DIGWYDDIADAU | EVENTS

cuppa.jpg
CYFNEWIDFA CYNHYRCHWYR A DYLUNWYR

24 Mawrth 2023, 14:00
Theatr Sherman
Heol Senghennydd, Caerdydd CF24 4YE


Rydym yn gwahodd dylunwyr a chynhyrchwyr o Gymru i ymuno â ni Yng nghyntedd Theatr Sherman am brynhawn o sgyrsiau a chyfnewidiadau sy’n archwilio’r berthynas rhwng dylunwyr a chynhyrchwyr – dwy rôl allweddol yn y theatr sy’n aml yn ymddangos nad ydynt yn deall yn llawn yr heriau, yr ymrwymiad, yr amser a’r adnoddau sydd eu hangen ar bob un i gydweithio’n llawn. Dan ofal y cyfarwyddwr, y cynhyrchydd a’r arweinydd celfyddydau, Rhian Hutchings, rydyn ni’n gobeithio dechrau cynnal y sgyrsiau anodd a gosod y sylfeini ar gyfer creu theatr fwy cynaliadwy a chydweithredol yng Nghymru. 
DESIGNER
PRODUCER
EXCHANGE


24 March 2023, 14:00
Sherma
n Theatre
Senghennydd
Rd, Cardiff
CF24 4YE

We invite Wales-based designers & producers to join us in the lobby of the Sherman Theatre for an afternoon of conversations and exchanges exploring the relationship between designers and producers - two key roles in the theatre making that often seem to not fully understand the challenges, commitment, time, and resources each need to fully collaborate. Facilitated by director, producer, and arts leader Rhian Hutchings, we hope to begin having the difficult conversations and lay groundwork for a more sustainable and collaborative theatre making in Wales. 
ecosystem.jpg
LLYFR GWYRDD THEATRAU AC ECOSYSTEM Y CELFYDDYDAU

Mawrth 2023, 10:00 - 12:30
Swyddfa Nation
al Theatre Wales
30 Arcêd y Castell, Caerdydd CF10 1BW

 

NIFER CYFYNGEDIG

 

Sgwrs panel a thrafodaeth gyda David Evans (Theatr Genedlaethol Cymru, ABTT, SiPA) ynghylch y Llyfr Gwyrdd Theatrau a’r modd o’i weithredu ar gynyrchiadau, gyda’r nod o arwain cyfranogwyr o ran sut i ddefnyddio’r offeryn yn eu prosiectau.  Mae hefyd yn cynnwys cyflwyniad ar weithredu cynaliadwyedd ar GALWAD (Collective Cymru) – nodau a chanlyniadau cynaliadwy’r prosiect, ei lwyddiannau, a’i heriau.

​

Bydd y cyflwyniadau hyn yn ysgogi trafodaeth grŵp am y Celfyddydau Gwyrdd yng Nghymru – ein cysylltiad ehangach â chymdeithas a’r cyfrifoldebau mae hyn yn ei olygu. Byddwn hefyd yn edrych ar yr hyn sydd ei angen arnom fel sector i weithredu arferion cynaliadwy, a’r heriau sy’n ein rhwystro.

THEATRE GREEN
BOOK AND
THE ARTS ECOSYSTEM

29 March 2023, 10:00 - 12:30
National Theatre Wales Office
30 Castle Arcade, Cardiff
CF10 1BW
 

LIMITED SPACE

 

A panel talk and discussion with David Evans (National Theatre Wales, ABTT, SiPA) around the Theatre Green Book and its implementation on productions, aiming to guide participants in how to use the tool in their projects.  Also featuring a presentation about the implementation of sustainability on GALWAD (Collective Cymru) – the project’s sustainable aims and outcomes, its successes, and its challenges.

​

These presentations will incite a group discussion around Green Arts in Wales – our wider connection to society and the responsibilities this entails. We will also explore what we need as a sector to implement sustainable practice, and the challenges that impede us.

pencils.jpg
PECYN CYMORTH CELFYDDYDAU CYNALIADWY : ECOSTAGE

29 Mawrth 2023, 14:00 - 16:00
Swyddfa National Theatre Wales
30 Arcêd y Castell, Caerdydd CF10 1BW

 

NIFER CYFYNGEDIG

 

Gweithdy i’r holl bobl greadigol sy’n archwilio saith egwyddor arweiniol Ecostage.  Dan arweiniad dau o gyd-sefydlwyr Ecostage – Mona Kastell a Ruth Stringer – bydd cyfranogwyr yn cael cyflwyniad i athroniaeth gyfannol Ecostage ynghylch cynaliadwyedd a sut gellir ei chymhwyso’n ymarferol i brosiect creadigol. Mae Ecostage yn adnodd gwych ar gyfer archwilio sut a ble gallwch wreiddio cynaliadwyedd yn eich ymarfer celfyddydol, gan gynnwys Democratiaeth Ddofn, Cyd-greu a Llesiant.


Gwybodaeth am Ecostage: Mae Ecostage yn wefan a menter ar lawr gwlad sy’n darparu fframwaith, offer ac adnoddau i wreiddio meddwl yn ecolegol ar bob cam o’n prosesau creadigol, ar draws pob graddfa gynhyrchu.  Mae’n cael ei arwain gan dîm creadigol o eco-ddylunwyr yng Nghymru, Lloegr a’r Alban: Andrea Carr, Paul Burgess, Mona Kastell a Ruth Stringer. Mae Ecostage ar gyfer pawb yn y sector celfyddydau perfformio a thu hwnt; ble bynnag ydych chi ar eich taith cynaliadwyedd.

​

https://ecostage.online/

THE SUSTAINABLE ARTS TOOLKIT : ECOSTAGE

29 March 2023, 14:00 - 16:00
National Theatre Wales Office
30 Castle Arcade, Cardiff
CF10 1BW
 

LIMITED SPACE

 

A workshop for all creatives that explores the seven guiding principles of Ecostage.  Led by two of Ecostage’s co-founders - Mona Kastell and Ruth Stringer – participants will be introduced to Ecostage’s holistic philosophy around sustainability and how it can be practically applied to a creative project. Encompassing foundations of sustainable arts practice including Deep Democracy, Co-Creation and Wellbeing, Ecostage is a great tool for exploring how and where you can embed sustainability in your arts practice.


About Ecostage: Ecostage is a grassroots initiative and website that provides a framework, tools and resources for embedding ecological thinking at all stages of our creative processes, across all scales of production.  It is led by a creative team of eco-designers based in England, Scotland and Wales: Andrea Carr, Paul Burgess, Mona Kastell and Ruth Stringer. Ecostage is for everyone in the performing arts sector and beyond; wherever you are on your sustainability journey.
 

https://ecostage.online/

practical 1.jpg
GWEITHDY DEUNYDDIAU CYNALIADWY – DEUNYDDIAU HYBLYG

30 Mawrth 2023, 10:00 - 13:00
Yr Hen Uned Boots,
Canolfan Capital
Heol y Frenhines
Caerdydd CF10 2HQ
​

£5 (80% o ddisgownt oddi ar y Gost Arferol) -

NIFER CYFYNGEDIG

 

Gweithdy addysgol ac ymarferol, ar gyfer gwneuthurwyr a dylunwyr. Bydd yn amlinellu rhai o’r gwahanol ddulliau cynaliadwy a hygyrch o wneud penderfyniadau ymarferol yn y diwydiannau creadigol.

​

Bydd y sesiwn foreol hon yn edrych ar ddulliau cynaliadwy o weithio gyda deunyddiau hyblyg gan edrych ar ddulliau eraill o wneud mowldiau a gorffeniadau hyblyg.

​

Dan arweiniad Louis Smith, cerflunydd a gwneuthurwr sy’n teimlo ar ei fwyaf cartrefol yn gweithio ar rywbeth mor fawr fel na allwch ddweud beth ydyw nes eich bod chi’n sefyll ymhell oddi wrtho. Gyda phrofiad o greu cerfluniau mawr a gwrthrychau wedi eu gwneud â llaw ar gyfer cwmnïau yn Ne Cymru a’r cyffiniau, yn amrywio o bypedau bach iawn i hetiau enfawr, mae ganddo ddiddordeb mewn darganfod deunyddiau a dulliau cynaliadwy a gweithio i’w hintegreiddio i arferion gwneud proffesiynol.

SUSTAINABLE MATERIALS WORKSHOP - FLEXIBLE MATERIALS

30 March 2023, 10:00 - 13:00
Old Boots Unit,
Capital Centre
Queen Street
Cardiff CF10 2HQ
 

£5 (80% Discount Off Normal Cost) -

LIMITED SPACE

 

An educational and practical workshop, for makers and designers. Outlining some of the different sustainable and accessible approaches to practical making within the creative industries.

​

This morning session will explore sustainable approaches to working with flexible materials looking
into alternative methods to mould making and flexible finishes.

​

Led by Louis Smith, a sculptor and maker who is most at home working on something so big you cannot tell what it is until you are standing far away from it. With experience creating large sculptures and handcrafted objects for companies in and around South Wales ranging from, tiny puppets to enormous hats, he is interested in discovering sustainable materials and approaches and working to integrate them into professional making practices.

practical 2.jpg
GWEITHDY DEUNYDDIAU CYNALIADWY – DEUNYDDIAU SOLID

30 Mawrth 2023, 14:00 - 17:00
Yr Hen Uned Boots
Canolfan Capital
Heol y Frenhines
Caerdydd CF10 2HQ
​

$5 (80% o ddisgownt oddi ar y Pris arferol) – NIFER CYFYNGEDIG

 

Gweithdy addysgol ac ymarferol, ar gyfer gwneuthurwyr a dylunwyr. Bydd yn amlinellu rhai o’r gwahanol ddulliau cynaliadwy a hygyrch o wneud penderfyniadau ymarferol yn y diwydiannau creadigol.

​

Bydd sesiwn y prynhawn yn cyflwyno dulliau cynaliadwy o weithio gyda deunyddiau solid, gan edrych ar ddulliau eraill o wneud mowldiau (gan gynnwys arddangosiad o gastio gyda myseliwm) a gorffeniadau caled.

​

Dan arweiniad Louis Smith, cerflunydd a gwneuthurwr sy’n teimlo ar ei fwyaf cartrefol yn gweithio ar rywbeth mor fawr fel na allwch ddweud beth ydyw nes eich bod chi’n sefyll ymhell oddi wrtho. Gyda phrofiad o greu cerfluniau mawr a gwrthrychau wedi eu gwneud â llaw ar gyfer cwmnïau yn Ne Cymru a’r cyffiniau, yn amrywio o bypedau bach iawn i hetiau enfawr, mae ganddo ddiddordeb mewn darganfod deunyddiau a dulliau cynaliadwy a gweithio i’w hintegreiddio i arferion gwneud proffesiynol.

SUSTAINABLE MATERIALS WORKSHOP -
SOLID MATERIALS

30 March 2023, 14:00 - 17:00
Old Boots Unit
Capital Centre
Queen Street
Cardiff CF10 2HQ
 

£5 (80% Discount Off Normal Cost) - LIMITED SPACE

 

An educational and practical workshop, for makers and designers. Outlining some of the different sustainable and accessible approaches to practical making within the creative industries.

​

This afternoon sessions will introduce sustainable approaches to working with solid materials, looking at
alternative methods to casting (including a demonstration of casting with mycelium) and hard finishes.

​

Led by Louis Smith, a sculptor and maker who is most at home working on something so big you cannot tell what it is until you are standing far away from it. With experience creating large sculptures and handcrafted objects for companies in and around South Wales ranging from, tiny puppets to enormous hats, he is interested in discovering sustainable materials and approaches and working to integrate them into professional making practices.

drink2.jpg
DIODYDD I’R DIWYDIANT A
DATHLIAD
HELO DDIEITHRYN


31 Mawrth 2023, 18:00
Porter's Cardiff
Cwrt Harlech
Rhodfa Bute
Caerdydd CF10 2FE


Dewch draw wrth i ni ddathlu agoriad Arddangosfa Helo Ddieithryn ar draws canol dinas Caerdydd a myfyrio ar wythnos o weithgareddau sy’n edrych ar gyflwr cynhyrchu theatr yng Nghymru! 
INDUSTRY DRINKS & 
HELO DDIEITHRYN 
CELEBRATION


31 March 2023, 18:00
Porter's Cardiff
Harlech Court
Bute Terrace
Cardiff CF10 2FE

Come along as we celebrate the opening of the Helo Ddieithryn Exhibition across Cardiff city centre and reflect on a week of activities examining the state of theatre making in Wales! 


 
bottom of page